Grŵp Cyflawni Lleol Bwrdeistref Sirol Caerffili
Factory thumbnail

Y Sefydliadau Rydyn ni’n Gweithio Ynddynt: Y Sectorau Cyhoeddus, Preifat a Mentrau Cymdeithasol Cymunedol Gwirfoddol

Mae'r strategaeth hon ar ffurf drafft ar hyn o bryd.
Tudalen 1 o 5

Am beth mae’r bennod hon yn sôn?

Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar yr allyriadau carbon o sefydliadau a’u dylanwad. Mae’n cynnwys busnesau, y sector cyhoeddus a’r sector mentrau cymdeithasol, cymunedol a gwirfoddol (VCSE). Ni waeth ble rydym yn gweithio neu’n gwirfoddoli ein hamser, mae gennym y potensial i ddefnyddio ein penderfyniadau yn y gweithle a’n pŵer a’n dylanwad prynu i helpu i frwydro yn erbyn y newid hinsawdd.

Mae’r sector cyhoeddus eisoes wedi ymrwymo i fod yn sero net erbyn 2030, fel yr amlinellir yn strategol yn  Statws carbon sero-net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws sector cyhoeddus Cymru.

Sectors chart

Mae busnesau yn allweddol ar gyfer y daith tuag at sero net, o ystyried eu bod yn gyfrifol am 38.1% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru. Mae symud tuag at gynaliadwyedd nid yn unig yn cael ei ysgogi gan yr hyn y mae’n rhaid iddyn nhw ei wneud, ond hefyd gan yr hyn mae eu cwsmeriaid a’u cleientiaid eisiau iddyn nhw ei wneud.

Mae’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yn hollbwysig yn y daith tuag at sero net, am eu bod yn dylanwadu ar arweinyddiaeth gymunedol a darparu gwasanaethau. Mae’r sectorau hyn yn gyfrifol am weithredu polisïau a mentrau sy’n ysgogi cynaliadwyedd ac yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae’r ymdrech tuag at gynaliadwyedd yn cael ei yrru gan ofynion rheoleiddiol ond hefyd gan ddisgwyliadau’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu

Rhaid i sefydliadau’r sector cyhoeddus arwain drwy esiampl a dylanwadu ar eu cadwyni cyflenwi er mwyn cyflawni cyfrifoldebau amgylcheddol ar y cyd. Yng Nghymru, mae tua 48,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector gwirfoddol, sef tua 3.6% o’r holl weithlu, ac mae tua 28% o oedolion yn gwirfoddoli’n ffurfiol drwy sefydliad.

Pam fod hyn yn bwysig?

Yn fyd-eang, mae 70% o ddefnyddwyr yn barod i dalu mwy am gynhyrchion gan gwmnïau sy’n amgylcheddol gyfrifol.

Mae busnesau sy’n mabwysiadu arferion cynaliadwy yn gweld effaith gadarnhaol ar gadw a recriwtio staff, gyda thraean o weithwyr proffesiynol y DU yn dweud y byddent yn gwrthod swydd pe na bai gwerthoedd cynaliadwyedd y cwmni yn cyd-fynd â’u rhai nhw. Mae wyth deg dau y cant o gwsmeriaid yn credu ei bod yn bwysig i fusnesau gael rhinweddau gwyrdd. Mae’r rhain nid yn unig yn helpu i leihau allyriadau ond hefyd yn gwella enw da cwmni, gan ei wneud yn fwy deniadol i ddefnyddwyr a darpar weithwyr. Bydd ein busnesau lleol yn sicrhau cyd-fudd hanfodol o’u hymdrechion i gyflawni sero net allyriadau.

Bydd ein dull gweithredu yn cynnal swyddi presennol ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth  newydd a ffyrdd newydd o weithio, gan adael neb ar ôl.

Globe icon

I’r rhai sy’n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a’r sector mentrau cymdeithasol, cymunedol a gwirfoddol, mae’r ymgyrch tuag at sero net yn sylweddol. Mae gweithwyr y sector cyhoeddus yn gwerthfawrogi cynaliadwyedd gan ei fod yn cyd-fynd â’u hymrwymiad i wasanaethu’r gymuned a sicrhau dyfodol gwell. Mae unigolion yn y sector gwirfoddol fel arfer yn cael eu hysgogi gan awydd i gael effaith gadarnhaol, ac mae cefnogi mentrau amgylcheddol yn estyniad naturiol. Mae ymchwil yn dangos bod 62% o weithwyr y sector gwirfoddol yn teimlo’n fwy cadarnhaol tuag at eu sefydliad pan fydd yn cymryd rhan mewn ymdrechion cynaliadwyedd. Mae wyth deg wyth y cant o arweinwyr y sector cyhoeddus yn credu bod mentrau cynaliadwyedd yn cael effaith gadarnhaol ar enw da eu sefydliad. Drwy flaenoriaethu nodau sero net, mae’r sectorau hyn yn arwain drwy esiampl.

Beth yw’r sefyllfa bresennol?

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer datgarboneiddio busnes, wrth anelu at sero net  allyriadau erbyn 2050, sydd wedi’u hamlinellu yng nghynllun sero net Cymru. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys mesurau penodol ar gyfer y sector busnes. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gosod y safonau i helpu Cymru gyflawni sero net allyriadau, gan ddefnyddio 1990/1995 fel mannau cychwyn gwaelodlin.

Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gartref i 5,300 o fusnesau cofrestredig, y mae 97% ohonynt yn fentrau bach a chanolig eu maint (SME).  Daw’r allyriadau uchaf o 22 o’r busnesau hyn, sy’n cael cymaint o effaith â’r gweddill gyda’i gilydd. Ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, gweithgynhyrchu sy’n cyfrannu fwyaf at ein hôl troed carbon gydag amcangyfrif o 58.5% o’n hallbwn gyda chludiant a storio yn dilyn gyda 34.4%.

Tudalen 2 o 5

Beth ddylai ein cymell?

Mae 2il Gyllideb Garbon Llywodraeth Cymru (2021-2025) yn pwysleisio’r angen am bolisïau effeithiol i ysgogi newid diwydiannol ar hyd y 2020au. Yn lleol, mae mentrau fel Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN 12/21) yn annog arferion caffael y sector cyhoeddus sy’n lleihau allyriadau CO2e, sy’n cefnogi’r nodau datgarboneiddio ehangach. Mae’r ymdrechion hyn yn cael eu hategu gan gynlluniau cymorth ariannol i helpu busnesu yng Nghymru i fod yn fwy ynni-effeithlon. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau yn gwybod pa gamau sydd eu hangen ond ni allant ganiatáu i’r rhain effeithio ar eu nodau neu eu proffidioldeb, ac felly mae galluogwyr y sector cyhoeddus yn ystyried bod datgarboneiddio yn is i lawr y rhestr blaenoriaethau oni bai bod cymhelliant priodol.

Beth ydym eisiau ei gyflawni?

Rydym eisiau gweld bwrdeistref sirol lle mae busnesau a sefydliadau yn:

Cyfrifo eu Hôl-troed Carbon:

Mae angen i sefydliadau fesur eu hôl-troed carbon presennol er mwyn ysgogi newid diwylliannol yn y sefydliad a dylanwadu ar sefydliadau eraill. Dylai’r sector cyhoeddus arwain drwy esiampl, gan gyfathrebu ei adroddiadau ei hun yn glir.

Mae Busnes Cymru yn ein helpu gyda’n datgarboneiddio, drwy gasglu data cyn ac ar ôl gosod data paneli solar felly gallwn weld y gwahaniaeth mae wedi’i wneud.

Cydnabod Buddiannau:

Bydd angen i sefydliadau gydnabod cynaliadwyedd fel rhywbeth cynaliadwy, proffidiol sy’n gwella enw da yn y tymor hir, yn hytrach nac fel gofyniad a orfodwyd yn allanol. Dylid cysylltu cyllid y Llywodraeth â’r agenda datgarboneiddio. Dylai’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol fabwysiadu dull gweithredu sy’n ystyriol o garbon, gan bwysleisio cyfrifoldeb cymdeithasol ym mhob penderfyniad, a gweithredu fel llysgenhadon gwariant.

Rydym wedi cychwyn ar daith gynhwysfawr i gyflawni sero net allyriadau. Drwy integreiddio’r arferion hyn, rydym yn helpu i arwain y gwaith o drawsnewid y diwydiant gan wneud gwahaniaeth i’n partneriaid a’r blaned.

Cefnogi Cadwyni Cyflenwi Lleol:

Mae angen i sefydliadau werthfawrogi effaith carbon ac effaith gymdeithasol penderfyniadau caffael i feithrin cadwyni cyflenwi lleol, cynaliadwy. Annog cydweithio rhwng sefydliadau, megis Fforwm Busnes Caerffili. Cydnabod bod cost yn ffactor arwyddocaol mewn dewisiadau caffael.

Arloesi a Chymryd Risgiau:

Parhau i arloesi a chymryd risgiau, yn arbennig gyda chynnyrch newydd sy’n lleihau allyriadau. Hyrwyddo diwylliant o ddysgu ac arfer gorau ar gyfer cynaliadwyedd. Cydnabod y bydd angen cymorth ar fusnesau a mynd i’r afael â gwrthwynebiad i newid drwy addysg.

Mae ein taith at sero net yn atgyfnerthu ein cred bod arloesi a chyfrifoldeb amgylcheddol yn mynd llaw yn llaw.

Meithrin Creu Swyddi:

Creu swyddi mewn sectorau cynaliadwy, ymgysylltu cyflogeion mewn camau gweithredu amgylcheddol, newid i arferion gwyrddach, a dylanwadu ar bolisi.

Resource efficiency chart

Mae datgarboneiddio yn ymgorffori ein hangerdd ac yn ysgogi pob penderfyniad a wnawn.

Gwella Effeithlonrwydd Adnoddau:

Trwy fabwysiadu ystod o fesurau arbed ynni, gall busnesau gyflawni arbedion costau sylweddol a chyfrannu at nodau cynaliadwyedd. Gwneud y defnydd gorau o ynni, atal gwastraff ynni, rheoli, monitro a chynnal a chadw cyfarpar yn effeithiol.

Tudalen 3 o 5

Sut fyddwn ni’n gwybod ein bod ar y trywydd cywir?

Dangosydd Llinell sylfaen Nodiadau
Allyriadau Ddiwydiant / Masnachol / Sector Cyhoeddus Diwydiant 103.5 cilo-tunnell CO₂e
Masnachol 34.2 cilo-tunnell CO₂e
Sector Cyhoeddus 14.4 cilo-tunnell CO₂e
Amcangyfrifon ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr tiriogaethol yr Awdurdod Lleol 2005-2022 (data 2022)
Nifer y busnesau sy’n ymgymryd â Hyfforddiant Sgiliau Gwyrdd  19 Busnesau wedi cwblhau hyfforddiant Sgiliau Gwyrdd drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU rhwng mis Medi 2023 a mis Rhagfyr 2024
Nifer y gweithwyr sydd wedi cwblhau Hyfforddiant Sgiliau Gwyrdd 190 Gweithwyr wedi cwblhau hyfforddiant Sgiliau Gwyrdd drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU rhwng mis Medi 2023 a mis Rhagfyr 2024
Sefydliadau Llythrennog o ran Carbon 1 (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili)
Busnesau â Chynllun Lleihau Carbon wedi’i ddilysu  I’w gadarnhau Mae mecanwaith ar gyfer casglu’r data hwn i’w ddatblygu
Mynediad at grantiau ar gyfer mesurau cynaliadwyedd 29 Grant
8% o gyfanswm y grantiau
Grantiau Busnes drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2022 – 2024 gydag Elfen Ddatgarboneiddio
Cynnyrch carbon isel neu gynnyrch sy’n lleihau carbon sydd wedi dod i’r farchnad  I’w gadarnhau Mae mecanwaith ar gyfer casglu’r data hwn i’w ddatblygu
Swyddi wedi’u creu mewn busnesau carbon isel  I’w gadarnhau Mae mecanwaith ar gyfer casglu’r data hwn i’w ddatblygu
Busnesau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu 80 Data Beauhirst

Sut fyddwn ni’n cyflawni hyn?

Bydd angen i sefydliadau, gan gynnwys busnesau:

Cynnwys pob cyflogai: Gwneud penderfyniadau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd gyda’n gilydd, gan sicrhau bod pob cyflogai a gwirfoddolwr yn deall ac yn cyfrannu at leihau effeithiau ar yr hinsawdd. Mae hyn yn hyrwyddo perchnogaeth ar y cyd a lles yn y gweithle. Mae angen i sefydliadau rannu penderfyniadau hinsawdd a hyfforddi staff yn effeithiol er mwyn bod pawb yn cael eu hysbysu a’u hysgogi i gymryd rhan.

Cyfathrebu’n glir: Darparu opsiynau clir i’r gadwyn gyflenwi i ddewis datrysiadau carbon isel a chyfathrebu cyflawniadau cynaliadwyedd yn effeithiol. Dylai tystiolaeth o welliannau gynnwys ôl-troed CO2 a pherfformiad ariannol.

Parchu Arferion Presennol: Cynnal ffocws ar arferion cenedlaethau’r gorffennol sydd eisoes yn naturiol effeithlon yn nhermau’r defnydd o garbon, maen nhw’n ‘Gwneud y tro a thrwsio’. Mae angen i ni wella’r arferion hyn drwy wneud defnydd gwell o dechnolegau presennol.

Hybu ffordd newydd o feddwl: Bydd sefydliadau yn ceisio ac yn cael eu hannog i greu cynnyrch nad ydynt yn rhai tafladwy, neu drwy eu gwaredu’n gyfrifol, ac wrth wneud hynny byddant yn cefnogi ethos ‘prynu unwaith’. Bydd sefydliadau’n ymgorffori hyn yn eu penderfyniadau prynu.

Cymorth y Sector Cyhoeddus: Mae caffael yn y sector cyhoeddus yn cyfrif am ddwy ran o dair o allyriadau. Mae ffrydiau gwaith amrywiol eisoes yn bodoli sy’n archwilio sut y gellir ysgogi caffael i gefnogi datgarboneiddio cadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus. Trwy bolisi a rheoleiddio, gall y sector cyhoeddus arwain a hyrwyddo busnesau a diwydiant carbon isel gan gefnogi datgarboneiddio cadwyn gyflenwi leol a meithrin twf o fewn yr economi gylchol.

Rydym wedi cychwyn ar daith gynhwysfawr i gyflawni sero net allyriadau. Drwy integreiddio’r arferion hyn, rydym yn helpu i arwain y gwaith o drawsnewid y diwydiant gan wneud gwahaniaeth i’n partneriaid a’r blaned.

Manteisio ar ddylanwad cyflogeion a gwirfoddolwyr: Mae partneriaid y sector cyhoeddus yn gyflogwyr mawr ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac o’r herwydd maent mewn sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar gyflogeion gyflawni eu gallu wrth weithredu yn y gwaith a gartref. Bydd rhoi’r potensial llysgenhadol hwn ar waith yn ysgogi gweithgarwch ehangach i wireddu pŵer ariannol gwneud penderfyniadau mwy gwybodus. Gall sefydliadau gwirfoddol fanteisio ar fuddsoddiad gwirfoddolwyr o’u hamser i ledaenu negeseuon cadarnhaol, ysgogol. Yna bydd gweithwyr a gwirfoddolwyr sy’n gwneud newidiadau yn eu bywydau cartref hefyd yn gweithredu fel dylanwadwyr, gan greu effaith crychdonni pwerus.

Caiff Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd ei gwobrwyo i sefydliadau sy’n gallu dangos rheolaeth amgylcheddol effeithiol. Mae’r sefydliadau hyn yn gweithio i ddeall, monitro a rheoli eu heffeithiau amgylcheddol. Mae’n addas ar gyfer sefydliadau o bob maint, mewn unrhyw ddiwydiant, ac mae’n hyblyg o ran ei dyluniad, fel y gall sefydliadau ei theilwra i’w hanghenion nhw.

Mae’r safon wedi’i strwythuro i bum lefel. Mae’n caniatáu i sefydliadau ennill ardystiad trydydd parti sydd wedi’i achredu gan UKAS, sy’n cydnabod eu harferion amgylcheddol. Mae’r ardystiad hwn yn dangos eu hymrwymiad nhw i gynaliadwyedd, ystyried effeithiau amgylcheddol, cydymffurfio â deddfwriaeth a diogelu’r amgylchedd. Yn ogystal, mae Groundwork Cymru wedi datblygu safon y Ddraig Werdd a Sero Net yn ddiweddar, a fydd yn helpu sefydliadau ymhellach ar eu teithiau tuag at Sero Net.

5 lefel y Ddraig Werdd yw:

  • Lefel 1: Ymrwymiad i Reoli’r Amgylchedd
  • Lefel 2: Deall Cyfrifoldebau Amgylcheddol
  • Lefel 3: Rheoli Effeithiau Amgylcheddol
  • Lefel 4: Rhaglen Rheoli’r Amgylchedd
  • Lefel 5: Gwella’r Amgylchedd yn Barhaus

Mae Lefel 5 y Ddraig Werdd yn cyfateb i ISO14001, ac mae angen mwy o ymrwymiad amgylcheddol mewn perthynas ag adrodd cyhoeddus ac allyriadau carbon nag ISO14001 a’r Cynllun Rheoli Amgylcheddol ac Archwilio.

Mae’r safon yn helpu sefydliadau i gydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol, dod yn fwy cystadleuol a gwella eu sgoriau tendr.

Tudalen 4 o 5

Beth ydym eisoes yn ei wneud yn dda?

Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwneud cynnydd sylweddol yn sgil yr ymrwymiad 2030, a gofynion adrodd sero net ac mae eisoes yn cefnogi busnesau a sefydliadau eraill yn eu taith at sero net drwy fentrau a pholisïau.

Yn ogystal, gall busnesau yng Nghaerffili gael mynediad at gymorth wedi’i ariannu’n llawn a ddyluniwyd i’w helpu i ysgogi arloesedd a hybu cynaliadwyedd drwy’r rhaglen Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC). Mae’r fenter hon yn cynnig offer a thechnegau i ddatblygu cynlluniau twf glân, a allai fod yn gymwys ar gyfer cyllid arloesi Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen yn cynnwys gweithdai misol a chymorth mentora, gan feithrin cydweithredu a rhannu arfer gorau ymysg y cyfranogwyr3.

Mae Cynghrair Hinsawdd Busnes De-ddwyrain Cymru (SEWBCC) yn fenter arwyddocaol sy’n cefnogi busnesau yn y rhanbarth. Mae’r gynghrair hon, sy’n cael ei chefnogi gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn uno busnesau o bob maint i hyrwyddo cynaliadwyedd a chyflymu’r llwybr tuag at gyflawni sero net allyriadau. Mae’r Gynghrair yn darparu adnoddau, gwybodaeth a llais cyfunol i helpu busnesau oresgyn heriau cynaliadwyedd cyffredin a meithrin diwylliant o ddatgarboneiddio.

Mae arferion Caffael Cynaliadwy, drwy ddefnyddio Themâu, Canlyniadau a Mesurau gwerth cymdeithasol, ochr yn ochr â gweithredu WPPN 06/21, yn cefnogi busnesau lleol i ddeall eu hallyriadau, gyda’r bwriad o ddatblygu Cynlluniau Lleihau Carbon.

Ar y cyfan, mae’r sector cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru a Bwrdeistref Sirol Caerffili yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi busnesau ar eu llwybr at sero net. Trwy gynlluniau cynhwysfawr, cymhellion ariannol, rhaglenni datblygu sgiliau, ac ymgysylltu â’r gymuned, maent yn creu amgylchedd sy’n annog ac yn hwyluso arferion cynaliadwy. Mae’r ymdrechion hyn yn hanfodol i gyflawni’r nod uchelgeisiol o allyriadau carbon sero net erbyn 2050.

Rydw i wastad wedi bod yn wadwr newid hinsawdd ond ar ôl rhywfaint o gyngor da a swnian gan fy ysgrifennydd, dwi’n sylweddoli bod angen i ni symud gyda’r oes ac rydw i o’r diwedd yn edrych i mewn i gael paneli solar ar gyfer fy musnes.

Tudalen 5 o 5
Tudalennau: