Grŵp Cyflawni Lleol Bwrdeistref Sirol Caerffili
Wind turbine icon

Yr Ynni a Ddefnyddiwn: Trydan, Cynhyrchu Gwres a Dal Carbon

Mae'r strategaeth hon ar ffurf drafft ar hyn o bryd.
Tudalen 1 o 5

Am beth mae’r bennod hon yn sôn?

Mae system ynni ardal leol yn cynnwys tair prif ran:

  1. Cynhyrchu a Chyflenwi – ffynonellau ynni adnewyddadwy ac anadnewyddadwy a storio ynni a ddosberthir yn lleol. Yng Nghaerffili, gallai hyn fod yn ynni a fewnforir drwy rwydweithiau trydan a nwy, petrol neu ddisel ar gyfer cerbydau, neu ynni a gynhyrchir yn lleol o ffynonellau megis paneli solar, tyrbinau gwynt a rhwydweithiau gwres.
  2. Seilwaith – rhannau ffisegol system ynni sy’n cysylltu’r cyflenwad â’r galw, er enghraifft is-orsafoedd.
  3. Defnydd a Galw – y defnydd terfynol o ynni, er enghraifft yn ein cartrefi, busnesau, diwydiant a cherbydau. Yn y bennod hon rydym yn canolbwyntio ar ddwy ran gyntaf y system – Cynhyrchu a Chyflenwi a Seilwaith. Rydym yn ystyried sut mae ynni yn cael ei gynhyrchu, ei ddosbarthu a’i storio ym Mwrdeistref Sirol Caerffili a beth sydd ei angen i ddatgarboneiddio’r rhannau hyn o’n system ynni.

Mae’r rhannau hyn yn wahanol i’r defnydd o ynni a’r pethau sy’n effeithio ar ein defnydd, er enghraifft mesurau effeithlonrwydd ynni. Trafodir y defnydd a’r galw am ynni mewn penodau dilynol ar  Adeiladau, Teithio a Thrafnidiaeth a Busnesau a Diwydiant.

Energy usage diagram

Mae Dal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS) yn dechnoleg newydd a allai gefnogi system ynni wedi’i datgarboneiddio ochr yn ochr â sectorau diwydiannol sy’n anodd eu lleihau, gan gynnwys cynhyrchu sment, dur a chemegau. Mae’n dechnoleg a ddyluniwyd i leihau allyriadau drwy eu dal, eu cludo a’u storio mewn ffurfiannau daearegol dwfn. Rydym yn cydnabod rôl bosibl Dal, Defnyddio a Storio Carbon wrth newid i system sero net a byddwn yn parhau i fonitro cyfleoedd yn y Fwrdeistref Sirol.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae ein system ynni yn hollbwysig i bron bob maes o fywyd. Yr ynni a gyflenwir i ni, ac a ddefnyddir i ddarparu gwres, pŵer a chludiant yw ffynhonnell y rhan fwyaf o allyriadau carbon ein hardal ar hyn o bryd. Er gwaethaf cynnydd aruthrol ers 2000, mae ein system ynni yn parhau i gael ei dominyddu gan danwydd ffosil.

Rydym eisiau datblygu system ynni sero net erbyn 2050 sy’n defnyddio adnoddau adnewyddadwy lleol, i ddarparu ynni teg, fforddiadwy, gwydn a chynaliadwy i alluogi ein preswylwyr a’n busnesau i ffynnu. Rhan allweddol o hyn fydd cynhyrchu datrysiadau ynni glân, carbon isel sy’n darparu amgylcheddau byw mwy iach a chynaliadwy.

I gyflawni hyn mae angen newid cyffredinol i’r ffordd rydym yn cynhyrchu, yn storio ac yn defnyddio ynni. Amcangyfrifir y gallai hyn gynrychioli cynnydd o hyd at 210% yn y galw am drydan hyd at 2050.

Gallwn fynd I’r afael â hyn, os byddwn yn wynebu ein dyfodol gyda’n gilydd

Beth yw’r sefyllfa bresennol?

Yn 2023, amcangyfrifwyd bod allyriadau ynni Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 477 ktCO₂e. Amcangyfrifir bod allyriadau y pen yn 2.4tCO₂e, sef yr isaf o unrhyw Awdurdod Lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r sefyllfa hon yn bennaf oherwydd nad yw’r Fwrdeistref Sirol yn ddiwydiannol iawn gan fod diwydiant yn cyfrif am ddim ond ~1% o’r galw am ynni.

Tudalen 2 o 5
Sources of energy chart

Y sefyllfa bresennol:

Mae 84% o’n trydan yn cael ei fewnforio drwy’r rhwydwaith grid.

Mae 11.6% o’n trydan yn cael ei gynhyrchu drwy ynni adnewyddadwy lleol (6.2% Paneli PV ar y Ddaear, 4.4% Gwynt, 1% Paneli PV ar Doeon)

Mae’n bwysig deall y galw am ynni ar gyfer pob defnydd terfynol o ynni yn ein system leol, gan mai’r galw sy’n pennu’r gofynion cynhyrchu, storio, cyflenwad a seilwaith.

Mae galw cynyddol am wres yn cynrychioli 48% o gyfanswm y galw am ynni, gyda’r rhan fwyaf o hyn yn deillio o nwy naturiol fel y dangosir uchod. Mae trydan yn cynrychioli 24% o gyfanswm y galw am ynni. Mae’r galw cyfunol am wres a thrydan yn cynrychioli 72% o’r galw a 65% o allyriadau.

Saving energy results in saving money.

Mae trafnidiaeth yn cynrychioli 27% o gyfanswm y galw yn y Fwrdeistref Sirol, ac mae 33% o allyriadau yn deillio o gerbydau ffordd. Mae natur wledig a’r lefel uchel o breswylwyr sy’n cymudo o’r Fwrdeistref Sirol oherwydd eu gwaith yn dylanwadu’n helaeth ar hyn, er bod 68% o’r rhai mewn cyflogaeth yn teithio o dan 12.5 o filltiroedd i’w gwaith.

Yn 2023-24, cynyddodd Wales & West Utilities (WWU) eu portffolio o brosiectau arloesol, gan wario £2.8 miliwn o gyllid arloesedd  i gefnogi’r gwaith o drawsnewid y system ynni a chefnogi cwsmeriaid agored i niwed ar gyflymder.

Drwy ymchwil a chydweithrediad, mae Wales & West Utilities yn parhau i ddatblygu tystiolaeth ar ymarferoldeb addasu rhwydweithiau nwy i hydrogen a chefnogi cwsmeriaid drwy’r broses hon o drawsnewid.

Mae Wales & West Utilities yn uwchraddio pibellau nwy drwy’r rhaglen disodli prif bibellau nwy, sy’n golygu bod rhwydweithiau nwy yn hydrogen barod i raddau helaeth yn y rhwydweithiau dosbarthu gwasgedd isel.

Mae yna 21 o safleoedd biomethan sydd wedi’u cysylltu i rwydwaith Wales & West Utilities, gyda’r capasiti i gyflenwi cyfanswm o 1.81 TWh o nwyon tŷ gwydr, sy’n ddigon i wresogi tua 160,000 o gartrefi. Y 21 ain cysylltiad oedd y cyntaf yn ardal De Cymru.

Beth ddylai ein cymell?

Y DU: Y Strategaeth Sero Net Build Back Greener yw strategaeth drosfwaol y DU sy’n nodi polisïau a chynigion ar gyfer datgarboneiddio pob sector o economi’r DU er mwyn cyflawni ein targed sero net erbyn 2050.

Cyllid sy’n defnyddio cymhellion i gyflawni Arloesedd ac Allbynnau: yw dull Ofgem o sicrhau bod gan gwmnïau sy’n rhedeg rhwydweithiau nwy a thrydan ddigon o gyllid i gynnal rhwydwaith effeithlon sy’n cyflenwi’r hyn sydd ei angen ar gwsmeriaid ac sy’n cefnogi’r broses o drawsnewid tuag at ffynonellau ynni glanach, rhatach a mwy sefydlog.

Cymru: Cymru Sero Net – Cyllideb Garbon 2 (2021-25) yw ymrwymiad Cymru i fynd i’r afael â’r newid hinsawdd a man cychwyn taith Cymru at sero net a Chymru wyrddach, gryfach a thecach. Fel rhan o’r gyllideb hon, mae Llywodraeth Cymru yn anelu at ddiddymu nwyon tŷ gwydr ac allyriadau i bob pwrpas o orsafoedd ynni erbyn 2035.

Mae Strategaeth Gwres i Gymru yn nodi sut y byddwn yn cyflawni sero net gwres yng Nghymru erbyn 2050 ar draws pob sector.

Rhanbarth: Mae gan Strategaeth Ynni Prifddinas-Ranbarth Caerdydd weledigaeth i greu’r amodau ar gyfer trawsnewid i fod yn economi a chymdeithas carbon niwtral, gan ddefnyddio ynni carbon isel fel galluogwr adfywiad economaidd, cynyddu ein hincwm rhanbarthol wrth gynnal gwarcheidwaeth ein hamgylchedd drwy dwf glân pendant.

Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cyflwyno gweledigaeth i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth modern a dibynadwy, cynaliadwy a charbon isel, sy’n rhoi’r rhyddid i bawb deithio mewn ffyrdd sy’n gweddu i’w huchelgeisiau, drwy aliniad cynhwysfawr o les economaidd, defnydd tir, a chynllunio trafnidiaeth.

Bwrdeistref Sirol Caerffili: Mae Cynllun Ynni Ardal Leol Bwrdeistref Sirol Caerffili yn casglu’r dystiolaeth i nodi’r llwybr mwyaf effeithiol o gyflawni system ynni sero net gyda gweledigaeth i drawsnewid y system ynni leol i sero net. Y weledigaeth yw datblygu system ynni sero net erbyn 2050 sy’n defnyddio adnoddau adnewyddadwy lleol, sy’n darparu ynni teg, fforddiadwy, gwydn a chynaliadwy i alluogi ein preswylwyr a’n busnesau i ffynnu.

Tudalen 3 o 5

Beth ydym eisiau ai gyflawni?

Datblygu’r system ynni sero net hon i Fwrdeistref Sirol Caerffili sy’n defnyddio adnoddau adnewyddadwy lleol:

  1. Bydd gan bawb, gan gynnwys preswylwyr a busnesau a sefydliadau’r trydydd sector, fynediad teg at gynnig carbon isel fforddiadwy ar gyfer gwresogi a phweru adeiladau.
  2. Bydd pobl a busnesau yn gallu cynhyrchu a storio eu trydan eu hunain, gan leihau eu dibyniaeth ar y grid cenedlaethol.

Sut fyddwn ni’n cyflawni hyn?

Cydweithio ac Arloesi Cefnogol: Bydd cydweithio gyda’r holl randdeiliaid ar draws y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, sefydliadau addysgol, gweithredwyr rhwydweithiau a’r sector preifat yn lleihau allyriadau wrth drosglwyddo, storio a dosbarthu ynni, ac yn annog arloesedd er mwyn cefnogi system ynni wedi’i datgarboneiddio.

Bydd cydweithio ar ddatblygu a chyflawni cynlluniau ynni lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn sicrhau cyflenwad gwydn a dibynadwy o ynni wedi’i ddatgarboneiddio.

Y Gadwyn Gyflenwi, Sgiliau a Swyddi: Bydd uwchsgilio a chreu Swyddi Gwyrdd yn y Fwrdeistref Sirol yn y prosesau cynhyrchu, trosglwyddo a storio  ynni yn cefnogi proses drawsnewid gyfiawn a datblygu cadwyni cyflenwi cydnerth ar gyfer system ynni wedi’i datgarboneiddio.

Sut fyddwn ni’n gwybod ein bod ar y trywydd cywir?

Dangosydd Llinell sylfaen Nodiadau
Gostyngiad yn allyriadau CO2 o Ynni 477 cilo-tunnell CO2e Data Llinell Sylfaen Cynllun Ynni Ardal Leol 2023
Gostyngiad yn allyriadau CO2 o drydan 119.3 cilo-tunnell CO2e Amcangyfrifon ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr tiriogaethol yr Awdurdod Lleol 2005-2022 (data 2022).
Gostyngiad yn allyriadau CO2 o nwy 213.5 cilo-tunnell CO2e
Cynnydd yn nifer y Paneli Solar Ffotofoltäig wedi’u Gosod ar y Ddaear 41.35 MW Cyfanswm Cynhwysedd Gosodedig, Adroddiad Senarios Dosbarthu Ynni yn y Dyfodol 2024
Cynnydd mewn Paneli Solar Ffotofoltäig ar bennau tai (Domestig) 11.263 MW
Cynnydd mewn Paneli solar Ffotofoltäig to (Masnachol/Diwydiannol) 5.38 MW
Cynnydd mewn pŵer gwynt 18.17 MW
Cynnydd mewn Storio 1.14 MW
Cynnydd mewn electrolysis hydrogen 0 MW

Beth ydym eisoes yn ei wneud yn dda?

Wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, mae Cynllun Ynni Ardal Leol wedi’i greu ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili sy’n nodi’r newidiadau sydd eu hangen i drawsnewid y system ynni lawn (gan gynnwys y galw a’r defnydd o ynni) i sero net erbyn 2050. Roedd ymgysylltu â rhanddeiliaid yn rhan allweddol o’r broses hon, gyda phartneriaid cyhoeddus a phreifat ar draws y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â rhanddeiliaid cenedlaethol fel National Grid Energy Distribution (NGED) a Wales & West Utilities, yn gysylltiedig â’r broses o lunio’r Cynllun Ynni Ardal Leol. Trwy hyn, mae perthnasoedd cydweithredol wedi’u datblygu a’u hatgyfnerthu ymhellach.

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

yn arloesi system ynni newydd trwy Gynlluniau Ynni Ardal Leol (LAEPs) sy’n allweddol yn ein taith tuag at sero net, gan wella dealltwriaeth o’r trawsnewid i ynni adnewyddadwy a llywio dyfodol ein systemau ynni. Comisiynodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Arup, yr Ymddiriedolaeth Garbon, ac Afallen i ddatblygu Cynllun Ynni Ardal Leol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn ysgogi’r trawsnewid i economi carbon isel, gan feithrin cymdeithas ffyniannus, deg ac iach.

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi defnyddio cydweithio strategol wrth lywio, llunio a galluogi agweddau allweddol ar ein trawsnewidiad ynni ar draws ranbarth amrywiol. Mae pob Awdurdod Lleol yn elwa o gynllun unigryw, sydd wedi’i ddatblygu drwy ddadansoddiad technegol trylwyr, gan gynnig llwybrau ‘gofid isel’ wedi’u teilwra. Mae amrywiaeth y tir a thopograffeg yn gofyn am atebion pwrpasol. Drwy gydnabod mannau cychwyn unigryw pob awdurdod, rydyn ni’n eu grymuso nhw i feddu ar eu cynlluniau ynni eu hunain yn hyderus.

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi sefydlu pum amcan allweddol i sicrhau datblygiad gorau posibl y Cynlluniau Ynni Ardal Leol. Mae’r amcanion hyn yn cynnwys adeiladu ar waith presennol, dadansoddi a blaenoriaethu cyfleoedd datgarboneiddio, a meithrin partneriaethau gyda chyrff cyhoeddus, cyfleustodau a phartneriaid preifat. Mae’r dull cydweithredol hwn yn sicrhau creu cynlluniau ynni sydd wedi’u hoptimeiddio ac sy’n effeithiol, gyda chynnydd a dysgu ar y cyd ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol.

Tudalen 4 o 5

Mae partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a sefydliadau addysgol lleol fel Prifysgol Caerdydd yn ein cynorthwyo i nodi cyfleoedd pellach ar gyfer prosiectau ynni gwyrdd yn y Fwrdeistref Sirol. Mae cyllid grant Innovate UK yn cael ei ddefnyddio yn awr i gwblhau astudiaethau ymarferoldeb ar ddatblygu Hydrogen Gwyrdd.

Mae NGED wedi sefydlu timau pwrpasol i gyfeirio a dylunio’r Atgyfnerthiad Eilaidd (Foltedd Isel ac 11kV).  Gwneir penderfyniadau ar sail Senarios Dosbarthu Ynni yn y Dyfodol sy’n edrych ar dwf a ragwelir, i sicrhau y gwneir buddsoddiadau yn y rhwydwaith i gefnogi’r twf angen a ragwelir.

Yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae’r cynlluniau canlynol wedi’u nodi ar gyfer atgyfnerthu:

  1. 5 Cynllun Uwchraddio Trawsnewidwyr Dosbarthu (buddsoddiad ~ £110,000)
  2. 3 Cynlluniau Atgyfnerthu Foltedd Isel (buddsoddiad ~ £250,000), mae hyn ar gyfer gwaith mawr i ailwampio’r rhwydwaith Foltedd Isel i gymunedau er mwyn bod yn barod i gysylltu Technolegau Carbon Isel i’n rhwydwaith.
  3. Mae NGED wedi cyhoeddi’r Cynllun Datblygu Rhwydwaith ac wedi ceisio cyflymu prosiectau fel rhan o’r rhaglen terfynau technegol, y mae rhai o Bwyntiau Cyflenwi’r Grid yng Nghaerffili wedi’u cynnwys ynddi.

Solar panel icon

Trwy gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 mae paneli solar PV wedi’u gosod ar y stoc tai cymdeithasol, gan leihau’r galw ynni ar y grid cenedlaethol a chostau i’r tenantiaid. Mae gan 47 o ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol osodiadau solar PV, sy’n cyfrannu i leihau’r galw ar y grid cenedlaethol.

I feel like there’s a lot of confusion and misinformation about climate change and carbon savings. I need information from a source I can trust

Community network icon

Mae Ynni Cymunedol yn gysyniad sy’n dod â chymunedau lleol at ei gilydd i ddatblygu, bod yn berchen ar ac elwa ar brosiectau ynni adnewyddadwy. Ynni Cymunedol Cymru | Mae Ynni Cymunedol Cymru yn sefydliad sy’n cefnogi prosiectau ynni cymunedol drwy gynnig arweiniad, adnoddau a llwyfan ar gyfer cydweithio. Sefydlwyd cwmni cydweithredol Egni yn Ne Cymru yn 2013 ac erbyn hyn hon yw’r gydweithfa solar to fwyaf yn y DU gyda thros 1,000 o aelodau a thros 4.4MW o solar to wedi’i ddatblygu ar 88 o safleoedd.

Tudalen 5 o 5
Tudalennau: