Nodau llesiant
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru. Mae ganddi saith nod llesiant ac mae’n hysbysu mudiadau am sut i gydweithio mewn ffordd fwy gynaladwy i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf trwy ddilyn pum ffordd o weithio.
Maent yn set o nodau; mae’r Ddeddf yn ei nodi’n glir bod yn rhaid i’r cyrff cyhoeddus a restrir weithio i gyflawni pob un o’r nodau nid un neu ddau nod yn unig.
- Cymru lewyrchus – Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.
- Cymru gydnerth – Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).
- Cymru iachach – Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
- Cymru sy’n fwy cyfartal – Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau
- Cymru o gymunedau cydlynus – Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu – Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang – Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.
Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ ar waith, sy’n rhoi gwybod i’r 44 sefydliad gwahanol sut i fynd ati i gyflawni eu dyletswydd o dan y Ddeddf. Mae gwneud rhywbeth ‘yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy’ yn golygu bod yn rhaid i’r corff weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Hefyd, wrth wneud eu penderfyniadau, rhaid i gyrff cyhoeddus wneud yn siŵr eu bod yn ystyried yr effaith y gallent ei chael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol.